Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 28 Ionawr 2021
Amser:
09.30 -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11101
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Bethan Sayed AS (Cadeirydd) Helen Mary Jones AS Mick Antoniw AS John Griffiths AS David Melding AS Carwyn Jones, AS |
Tystion: |
Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Emma Bennett, Llywodraeth Cymru Uzo Iwobi, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2 Ymchwiliad i bwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:
Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Uzo Iwobi – Cynghorydd Polisi Arbenigol ar Gydraddoldeb
Emma Bennett – Pennaeth Cydraddoldeb
3 Papur(au) i’w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
3.1 Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru ynghylch cymorth ar gyfer y cyfryngau newyddion
3.2 Ymateb Cyngor Celfyddydau Cymru i’r adroddiad ar yr ymchwiliad i gerddoriaeth fyw
3.3 Gohebiaeth ynghylch yr ymchwiliad i ddatganoli darlledu
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cymeradwyodd yr Aelodau y cynnig.
5 Ôl-drafodaeth breifat
6 Ymchwiliad i bwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth
Penderfynodd y Pwyllgor ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ei gwahodd i gyflwyno ymateb ysgrifenedig i'r ymchwiliad i gerfluniau.
Penderfynodd y Pwyllgor hefyd ysgrifennu at Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru ac Undeb Rygbi Cymru i holi a ydynt erioed wedi ystyried coffáu chwaraewyr y tu allan i feysydd chwaraeon ac, os felly, pa brotocolau – os o gwbl – sy'n sail i unrhyw benderfyniad i wneud hynny.